#

Deiseb: P-05-759 Ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn adeg y Pasg 2018
Y Pwyllgor Deisebau | 13 Mehefin 2017
 Petitions Committee | 13 June 2017
 

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-759

Teitl y ddeiseb: Ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn adeg y Pasg 2018

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddarparu'r dull angenrheidiol i ganiatáu i Gyfoeth Naturiol Cymru ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn yn llawn i geir preifat adeg y Pasg 2018.

Yn ystod haf 2014, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y byddai Ffordd Goedwig Cwmcarn, a elwir hefyd yn Daith Cwmcarn, ar gau am o leiaf ddwy flynedd o fis Tachwedd 2014, a bod hyn yn angenrheidiol oherwydd haint llarwydd Japan yn nyffryn Cwmcarn a'r llechweddau cyfagos. Mae'r broses o gael gwared ar y llarwydd bellach bron wedi'i gwblhau ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dechrau adfer y llwybrau beiciau a llwybrau troed, ond nid ymddengys fod bwriad i adfer Taith Cwmcarn, er bod y mwyafrif helaeth o'r llwybr heb ei niweidio. Mae canolbwyntio ar ddefnyddwyr ceir preifat y ffordd yn annheg ac yn ddianghenraid pan fydd defnyddwyr eraill dim ond yn wynebu amhariad dros dro. Mae llawer o'r rhai sy'n cael mynediad i'r Ffordd gyda char preifat yn gwneud hynny am na allant symud llawer - mae rhai yn deuluoedd gyda phlant bach, mae llawer yn hŷn, yn anabl neu o'n cymunedau lleiafrifoedd ethnig a mewnfudwyr. Mae methu â darparu cyfleuster ar gyfer y bobl hyn yn wahaniaethol, yn enwedig pan fo cynlluniau, a'r arian ar gael, i ddarparu cyfleusterau pellach ar gyfer defnyddwyr eraill. Mae diffyg ffordd sy'n gwbl hygyrch yn amddifadu'r bobl hynny sydd fwyaf difreintiedig yn ddiwylliannol ac yn fateryddol o'u prif gyfleuster ar gyfer iechyd a lles. Mae ein sefydliad, Cyfeillion Ffordd Goedwig Cwmcarn eisiau mynediad cyfartal i holl ddefnyddwyr Taith Cwmcarn ac yn galw ar Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu ffordd o wneud hyn yn bosibl.

Cefndir

Mae'r Ffordd Goedwig yn un o nifer o gyfleusterau a ddarperir gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn nyffryn Cwmcarn. Mae'r cyfleusterau hyn hefyd yn cynnwys canolfan ymwelwyr gyda chaffi a siop anrhegion, llwybrau cerdded a llwybrau beicio mynydd, a chyfleusterau pysgota a gwersylla.

Caeodd y Ffordd Goedwig ym mis Tachwedd 2014 i ganiatáu i Gyfoeth Naturiol Cymru ymgymryd â gwaith ar raddfa fawr i dorri coed llarwydd a oedd wedi'u heintio â Phytophthora ramorum (clefyd y llarwydd). Roedd 78% o'r coed ar hyd y ffordd yn goed llarwydd a oedd wedi'u heintio gan y clefyd. Mae'r dull hwn yn rhan o strategaeth Cymru gyfan Cyfoeth Naturiol Cymru i leihau'r perygl y bydd clefyd y llarwydd yn lledaenu ymhellach.

Ym mis Ebrill 2015, rhoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru y rhesymau a ganlyn dros gau'r Ffordd Goedwig (PDF 189KB):

§    Diogelwch y cyhoedd yw'r flaenoriaeth bennaf;

§    Ffordd un llwybr, un cyfeiriad, yw'r Ffordd Goedwig am y rhan fwyaf o’i hyd; 

§    Bydd y ffordd yn cael ei defnyddio i gadw offer cynaeafu ar gyfer y gwaith;

§    Bydd pren yn cael ei storio yn uniongyrchol ar neu ger y ffordd a'i lwytho ar lorïau;

§    Bydd loriau cario mawr yn teithio ar y ffordd yn rheolaidd;

§    O gofio nad yw’r ffordd wedi’i hadeiladu i safonau priffyrdd, mae’n hynod o debyg y bydd y lorïau coed 40 tunnell a’r peiriannau cynaeafu’n ei niweidio.    Felly, ni fyddai'n ddiogel i fodurwyr preifat ddefnyddio'r ffordd tra bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen.

Ym mis Ionawr 2016, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrth y Gwasanaeth Ymchwil:

Closing the drive for felling has inevitably led us to ask some hard questions about whether or not we open the drive again. Like other public bodies, we are having to think about how best to use our limited resources. We haven’t yet reached any conclusions, but we need to be realistic about the challenges we face at Cwmcarn. In particular:-

§  There will be some significant up-front costs associated with re-instating the roads and recreational facilities.

§  We also know that any investment or re-opening would require a rationalisation and re-fresh of the facilities we offer, and that this would also be an additional cost.

§  The way in which we have been managing the drive is not sustainable, and we need to find a more efficient model for managing the facility. It’s currently running at a net loss.

We need to consider all of these factors, as well as looking at potential sources of funding over the next few months. Whilst we can’t make any commitment that the drive will definitely open, we do recognise the value of the drive to the health and wellbeing of local communities, and will be doing everything we can to make sure an opportunity is not lost here.

 

Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Ysgrifennodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, at y Pwyllgor Deisebau ar 8 Hydref 2016. Mae ei llythyr yn datgan y canlynol:

§    Cafodd y Ffordd Goedwig ei chau er mwyn sicrhau bod y gwaith cynaeafu ar raddfa fawr yn cadw at yr amserlen a bod unrhyw risgiau i ddiogelwch y cyhoedd yn cael eu rheoli'n briodol. Mae hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel i Gyfoeth Naturiol Cymru.

§    Mae arolygon peirianneg o'r Ffordd Goedwig wedi nodi bod angen buddsoddiad sylweddol i'w chadw ar agor.

§    Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadw mewn cysylltiad rheolaidd â Chyfeillion Ffordd Goedwig Cwmcarn yn ystod y 18 mis diwethaf, gan gynnwys darparu diweddariadau mewn cyfarfodydd cyhoeddus.

§    Nid oes penderfyniad wedi'i wneud ar ddyfodol y Ffordd Goedwig. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn glir na all ymrwymo i ailagor y Ffordd Goedwig nes bod modd darganfod cyllid i gefnogi'r gwaith sy'n gysylltiedig â hi.

§    Bydd astudiaeth i ymarferoldeb masnachol a'r opsiynau rheoli yng Nghwmcarn yn dechrau eleni. Bydd opsiynau ar gyfer dyfodol y Ffordd Goedwig yn cael eu cynnwys yn yr astudiaeth hon. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gobeithio adolygu canfyddiadau'r astudiaeth yn gynnar yn 2018.

§    Dylid annog y deisebwyr i barhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu cynllun i sicrhau dyfodol hirdymor y Ffordd Goedwig.

 

Camau gweithredu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae cau Ffordd Goedwig Cwmcarn wedi bod yn destun nifer o gwestiynau llafar ac ysgrifenedig yn y Cynulliad yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gan gynnwys y canlynol.

Ar 3 Chwefror 2016 gofynnodd William Powell AC:

 ... mae Ffordd Goedwig Cwmcarn bellach wedi’i chau i geir ers mis Tachwedd 2014, er mwyn caniatáu gwaith ar gwympo dros 150,000 o larwydd heintiedig.  Mae cryn ansicrwydd wedi bod ymhlith y cyhoedd ynghylch dyfodol hirdymor yr atyniad arbennig hwnnw a hefyd mewn perthynas â llwybrau tramwy sy’n dal ar agor i gerddwyr ac i feicwyr mynydd.  Rwy’n deall bod canolfan ymwelwyr Coedwig Cwmcarn yn debygol o gofnodi gostyngiad o 10 y cant o leiaf yn nifer yr ymwelwyr.  Credir bod hyn yn deillio’n rhannol o gamddealltwriaeth ynghylch statws presennol y rhwydwaith llwybrau. Gwn fod fy nghyd-Aelod, Jocelyn Davies, wedi ysgrifennu ar y pwnc yn y wasg leol yn ddiweddar.  Yn hyn o beth, hefyd, mae Rob Southall, cadeirydd cyfeillion Ffordd Goedwig Cwmcarn, wedi cyflwyno deiseb i’r Pwyllgor Deisebau.  O ystyried pwysigrwydd y ffordd goedwig, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gynorthwyo Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael â phryderon y gymuned leol ac i sicrhau ei bod yn agor eto a chyn gynted ag y bo modd?

Ymatebodd Carl Sargeant AC, y Gweindiog Cyfoeth Naturiol ar y pryd, gan ddweud:

Gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio’n galed iawn yn yr ardal i geisio datrys y materion hyn, ond mae diogelwch biolegol yr ardal honno a gweddill Cymru yn hynod o bwysig. Rwy’n credu eu bod yn ymdrin â’r sefyllfa’n dda iawn. Wrth gwrs, byddem yn hoffi gweld Ffordd Goedwig Cwmcarn ar agor, ond mae’n fater o sicrhau ein bod yn gallu ymdrin â haint phytophthora ramorum sydd ar droed yn y rhanbarth hwnnw.

Ar 22 Mehefin 2016 gofynnodd Rhianon Passmore AC:

Mewn perthynas â’r gwaith torri coed ar ffordd goedwig hardd Cwmcarn, sy’n saith milltir o hyd, a gaewyd dros dro ym mis Tachwedd 2014, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan fod hwn yn waith hirdymor a allai gymryd rhwng tair a phedair blynedd i’w gwblhau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ailadrodd penderfyniad diamod a digamsyniol Llywodraeth Cymru y bydd un o ryfeddodau naturiol amgylchedd Cymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac y bydd yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau y bydd y ffordd ar gael i’r cyhoedd unwaith eto?

Ymatebodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig gan ddweud:

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o werth ffordd goedwig Cwmcarn i’r cymunedau lleol ac i ymwelwyr. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi sefydlu gweithgor i edrych ar y cyfleoedd hirdymor yno, gan gynnwys sut y gellir ariannu llwybrau cerdded a beicio, a meysydd gwersylla, yn gynaliadwy yn y dyfodol.

Ar 5 Gorffennaf 2016 gofynnodd Rhianon Passmore AC:

… mae canolfannau twristiaeth o fewn agenda cysylltedd y dinas-ranbarth yn gwbl hanfodol o ran rhyddhau potensial ein tirweddau hardd yng nghymunedau'r Cymoedd, felly, a fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi o ran pa mor bwysig yw hi, er enghraifft, bod taith olygfaol Cwmcarn yn fy etholaeth i yn cael ei hadfywio mewn gwirionedd a’i hadfer fel gwir weledigaeth o'r hyn y gallwn ei wneud gyda chymunedau’r Cymoedd, a’r hyn y gallwn ei wneud o ran adfywio cymunedau ein Cymoedd?

Ymatebodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, drwy ddweud:

Rwy’n cytuno’n llwyr. Rwy'n meddwl bod ffordd goedwig Cwmcarn yn adnodd gwych inni i gyd, ac nid dim ond i’r rhai ohonom sy'n byw yn y Cymoedd. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ei lle ac wedi clywed y pwyntiau yr ydych wedi eu gwneud. Ac, yn sicr, bydd y gwaith yr wyf yn credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn ymwneud ag ef yn sicrhau bod taith olygfaol Cwmcarn ar gael i bobl yn y dyfodol. Mae'n enghraifft dda iawn o sut mae amgylchedd a daearyddiaeth a thirwedd y Cymoedd yn rhywbeth sy’n gallu darparu, nid dim ond mwynhad a phleser i'r rhai ohonom sy'n byw yno, ond gall hefyd sicrhau ein bod yn cael effaith economaidd, ac un y mae angen inni ei harneisio a’i defnyddio ar gyfer y dyfodol.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.